Annwyl Dai
Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Yn ei gyfarfod olaf ar 8 Mawrth 2016, rhoddodd y Pwyllgor Deisebau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad ystyriaeth i'r ddeiseb a ganlyn a gyflwynwyd gan y Muscular Dystrophy Campaign:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Iechyd yn gweithredu'r buddsoddiad a gynigir yn Nogfen Weledigaeth Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru i wella gwasanaethau niwrogyhyrol arbenigol yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru'n argymell y dylid blaenoriaethu'r datblygiadau canlynol: 1. Cynyddu nifer y Cynghorwyr Gofal Teulu a lefel y gefnogaeth. 2. Ffisiotherapyddion niwrogyhyrol arbenigol ar gyfer oedolion. 3. Penodi ymgynghorydd anhwylderau niwrogyhyrol ar gyfer oedolion. 4. Cynyddu seicoleg glinigol. 5. Cyllideb offer at bryniannau mân a threfniadau lesio.
Yn y cyfarfod hwnnw, cytunodd yr Aelodau i ofyn i'r Pwyllgor Iechyd newydd a fyddai'n ystyried cynnwys y mater hwn ar ei flaenraglen waith ar gyfer y Pumed Cynulliad. Fel y Cadeirydd newydd, rwyf nawr yn bwrw ymlaen â'r cais hwn yn unol â'r hyn a gytunwyd gan y Pwyllgor blaenorol.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon eich ymateb trwy e-bost at dîm clercio'r Pwyllgor yn SeneddDeisebau@Cynulliad.Cymru
Yn gywir
Mike Hedges AC
Cadeirydd